P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michelle Adams, ar ôl casglu cyfanswm o 20,616 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Pe bai’n rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith eto, dylid ystyried bod campfeydd yr un mor bwysig â siopau er mwyn diogelu iechyd y genedl. Maent yn llawer llai o berygl o ran trosglwyddiad Covid-19 na bwytai a thafarndai.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

https://www.ukactive.com/news/fitness-and-leisure-sector-reports-covid-rate-of-0-34-per-100000-visits-since-reopening-in-england/

- Arweiniodd 22,000,000 (22 miliwn) o ymweliadau â champfeydd at ddim ond 78 o achosion o Covid

- Campfeydd y DU yn dangos dim ond 0.35 o achosion fesul 100,000 o ymweliadau

https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-derbyshire-54464470

Mae campfeydd yn dal i ddangos dim ond 1.7 y cant o achosion, ond maent am ein cau a chadw bwytai, sydd â chyfradd uwch, sef 9.6 y cant o achosion, yn agored.

Mae hunanladdiad dynion bellach ar gyfradd uwch nag erioed o’r blaen https://www.bmj.com/content/370/bmj.m3431

Dengys data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion a bechgyn yn 2019, sef 16.9 marwolaeth ym mhob 100,000, sef y gyfradd uchaf ers 2000 ac ychydig yn uwch na chyfradd 2018 sef 16.2 ym mhob 100,000 o farwolaethau. Y gyfradd hunanladdiad ymhlith menywod a genethod oedd 5.3 marwolaeth ym mhob 100,000 yn 2019, sef cynnydd o 5.0 ym mhob 100,000 o gymharu â 2018 a'r gyfradd uchaf ers 2004.

Gweler y linc a ganlyn:

https://academic.oup.com/qjmed/article/113/10/707/5857612sy'n trafod hunanladdiad, iechyd meddwl a Covid.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ynys Môn

·         Gogledd Cymru